(CA)-583-)

 

CA583

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Teitl: Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol 

 

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i godi ffi resymol ar oedolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Mae’r Rheoliadau’n amlinellu nifer o ddarpariaethau y mae’n ofynnol bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â hwy wrth arfer y pŵer hwn.

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 15.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 5) – ‘hawlogaeth sylfaenol’ – o ganlyniad i baragraffau (a) a (b) gall premiwm anabledd difrifol gael ei atal os telir ef, mae testun y ddau baragraff yn cyfeirio’n anghywir at ‘os telir ef’, sy’n creu amwyster. (Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft

yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol)

 

2.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 7) – ystyr ‘cyfleuster ymweliadau cartref’ yw ymweliad neu ymweliadau gan swyddog priodol awdurdod lleol â chartref cyfredol D. Mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at …gartref neu breswylfa. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft)

 

3.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 7) – ‘mewn ysgrifen’. Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at ‘eiriau neu ffigurau’ (‘words or figures’); fodd bynnag, mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at ‘eiriau a ffigurau’.  

 

4.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 8) – ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” yw oedolyn y cynigiwyd iddo, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir neu wedi’u ddiogelu (‘or secured’) gan awdurdod lleol. Mae’r testun Cymraeg yn hepgor y geiriau neu wedi’u ddiogelu (‘or secured’). (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

5.   Rheoliad 7 (4) (b) (tudalen 11) - Mae’r testun Saesneg yn darparu bod yn rhaid i wahoddiad sy’n gofyn am asesiad o fodd gynnwys manylion llawn am bolisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd hefyd gynnwys y wybodaeth yn is-baragraff (1) - (v). Nid yw’r cyfieithiad Cymraeg yn ei wneud yn ofynnol bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei chynnwys. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

6.   Rheoliad 7 (4) (e) (tudalen 12) – Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at is-baragraff (d), ond mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at (dd) yn lle (ch). (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

7.   Rheoliad 7 (4) (i) yn y Saesneg, (ff) yn y Gymraeg - Mae’r testun yn cyfeirio at unigolion yn lluosog. Mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at unigolion i ddechrau, ond wedyn yn mynd ymlaen i gyfeirio at un unigolyn - ‘gysylltu ag ef’. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

 

Rhinweddau: craffu

 

Gweler CLA(4)-01-11(p1) ar gyfer y pwyntiau a nodwyd i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Ebrill 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

Derbynnir y pwyntiau adrodd.  Mae’r Llywodraeth yn bwriadu dwyn deddfwriaeth ddiwygio gerbron cyn gynted â phosibl a beth bynnag cyn pen tri mis ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.